Click here to go to the English version of the page
Atebion Pwy sy’n gweithio i’r cwmni?
Cathrin Brynach ei hun sy'n gwneud y gwaith ar y cyfan. Weithiau bydd yn troi at raddedigion eraill yn y Gymraeg am gymorth. Fodd bynnag, medrwch fod yn siwr fod y safon yn cael ei gadw ar y lefel uchaf bob amser
Faint fyddwch chi’n ei godi am gyflawni gwaith?
Y pris safonol yw £62 am bob mil o eiriau yn y sgript cyfieithedig terfynol. Weithiau fodd bynnag, a bod anghenion arbennig gyda chi (e.e. angen y gwaith ar fyrder) yna bydd y pris rhyw ychydig yn uwch. Os yw hyn yn fater pwysig i chi, a'ch bod yn dymuno cael rhyw amcan o'r pris terfynol cyn dechrau, yna cysylltwch â ni am amcangyfrif cyn i ni gychwyn ar y gwaith cyfieithu
Faint o amser wnaiff hi gymryd i gwbwlhau’r gwaith?
Ar y cyfan, amcangyfrifir ei bod hi'n bosib cyfieithu rhyw 1,000 o eiriau y dydd. Mae hyn yn cynnwys wrth gwrs amser cywiro a chysoni ar y testun. O'r herwydd, os yw'r gwaith y dymunwch ei gyfieithu yn 5,000 o eiriau o hyd, yna dylech weithio ar y sail y bydd hi'n cymryd rhyw 5 niwrnod i'w gyfieithu. Os yw'r gwaith yn fater o frys, yna cysylltwch â ni, ac fe fedrwn ni roi gwybod i chi a oes modd cwblhau'r gwaith yn yr amser penodedig. Rydym yn aml yn medru cyfieithu darnau byr dros nos, ynteu dros y penwythnos, gan sicrhau fod y gwaith yn ôl gyda chi pan ddychwelwch at eich desg yn y bore.
Fedrwch chi hefyd gynnig gwasanaeth cyfieithu ar y pryd?
Mae cyfieithu ar y pryd yn ddisgyblaeth arbennig sy'n galw am offer arbenigol yn ogystal â gallu penodol. Ar hyn o bryd, nid yw Cyfieithu Nanhyfer yn cynnig y gwasanaeth hwn.
Sut fedrwn ni sicrhau fod y gwaith o safon?
Yn ogystal â gwneud gwaith cyfieithu, mae Nanhyfer yn medru cynnig gwasanaeth darllen proflenni hefyd. Fodd bynnag, dim ond proflenni trwy'r post neu via e-bost y medrir eu darllen ? mae darllen proflenni sydd wedi eu hanfon trwy'r peiriant ffacs yn anodd tu hwnt, ac yn medru arwain at gamgymeriadau.
Sut fedrwn ni anfon gwaith atoch i’w gyfieithu?
Y ffordd orau o ddigon yw anfon deunydd i'w gyfieithu trwy e-bost. Mae modd wedyn tros-deipio'r cyfieithiad sy'n sicrhau fod y cysodi gwreiddiol yn cael ei gadw i raddau helaeth. Dylech fod yn ymwybodol fodd bynnag, fod Cymraeg, ar y cyfan, yn cymryd ychydig mwy o le na'r Saesneg, felly mewn dogfen hir bydd yr adran Gymraeg yn cymryd ychydig yn fwy o ofod na'r fersiwn Saesneg.
Pa raglenni cyfrifiadurol fyddwch chi’n eu defnyddio?
Rydym yn defnyddio rhaglenni MS Word, MS Excel a MS Powerpoint. Rydym hefyd yn medru darparu ffeiliau ar ffurf PDF neu ar sawl ffurf (e.e. ar ffurf ffeil MS Word a PDF). Rydym hefyd yn defnyddio'r rhaglen wirio sillafu Gymraeg CySill.
Pa ieithoedd fedrwch chi eu cyfieithu?
Medrwn gyfieithu o'r Gymraeg i'r Saesneg ac o'r Saesneg i'r Gymraeg.
Hoffwn i chi roi pris i ni am gyflawni darn o waith cyfieithu – fedrwch chi ddarparu amcangyfrif ar ein cyfer?
Wrth gwrs! Cysylltwch â ni trwy gyfrwng un o'r dulliau a grybwyllir ar y dudalen "gyswllt" a byddwn yn hapus iawn i ddarparu amcan-bris ar gyfer cyfieithu dogfen.
Answers Who works for the company?
Cathrin Brynach does almost all the translation work herself. Occasionally she calls on the services of other graduates in Welsh. However, rest assured that the quality of any translations remain at the very highest level at all times.
How much will you charge us?
The standard rate for our translation service is £62 per one thousand words in the final translated text. Occasionally however, if you have extraordinary requirements (e.g. you require the work completed in a hurry) the price might be slightly higher. If this is of importance to you and you would like some idea about the final charge, then please contact us for an estimate before the translation work begins.
How long will it take to complete the work?
Generally, it is estimated that it is possible to translate around 1,000 words a day. This includes of course the time required to check and standardise the text. Consequently, if the work you'd like translated is around 5,000 words long, you should work on the basis that this would take 5 days to translate. If the text to be translated is required in a hurry, then please do get in touch with us so that we can let you know whether it is possible to complete the work in the allotted time. We can often complete short translations overnight which means that the translation can be there waiting for you when you return to your desk in the morning or after the weekend.
Are you able to offer a simultaneous translation service?
Simultaneous translation is a specialised discipline that requires particular equipment as well as specialised skills. At the moment, Nanhyfer Translation does not provide this service.
How can we be sure of the quality of the work?
As well as translation services, Nanhyfer are also able to provide proof-reading services too. However, only texts sent to us by post or via e-mail can be checked ? proofs sent by fax are not of a high enough quality to be able to guarantee correct proofing.
How can we send work to you to be translated?
The best way by far for us to receive material for translation is via e-mail. We can then over-type the original text to ensure that the original type-setting is retained to the greatest extent possible. You should however be aware that Welsh does, on the whole, take up slightly more space than English. Consequently in a long document you should be aware that the Welsh text will take up slightly more space than the English text and plan accordingly.
Which computer programmes do you use?
We use the MS Word, MS Excel and MS Powerpoint programs. We can provide files in PDF format or indeed in a multi-format (e.g. MS Word and PDF). We also use the Welsh spell-checker program CySill.
Which languages can you translate?
We are able to translate from Welsh into English or from English into Welsh
We’d like you to provide us with a price for completing a piece of work – are you able to provide an estimate for us?
Of course! Contact us via one of the ways noted in the "contact us" page and we will be delighted to provide you with an estimate for translating a document.
|